Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y o'r Wefan | A i Y o Wasanaethau'r Cyngor | Testun yn unig | Map y safle | Defnyddio'r wefan hon | English

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Linc i safle gwe Cymru ar y We

 

Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwasanaeth dai a gofal cymdeithasol ar gyfer dinasyddion Môn.

Cyfarwyddwr Corfforaethol (gweithredol): Mr T Gwyn Jones

Penaethiaid Gwasanaeth:

  • Uned Ddarparu: Carys Emyr Edwards
  • Gwasanaethau Tai: Mr W. Rhys Jones

Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu monitro gan y Pwyllgor Cynhwysiad Cymdeithasol.

Crynodeb o Rôl y Gwasanaeth

Gwasanaethau Tai

Mae'r Gwasanaeth yn ymrwymedig i gynnal gwasanaethau cynhwysfawr sydd yn gost effeithiol ac sydd hefyd yn ymateb i anghenion tenantiaid a pherchnogion fel ei gilydd.

Mae'r Gwasanaethau Tai yn gyfrifol am amrediad o wasanaethau gan gynnwys:

  • rheoli cyfrif refeniw tai'r cyngor
  • gwasanaethau tai cyngor
  • dyraniadau / pobl digartref
  • rheoli stadau
  • casglu rhenti / ôl-ddyledion
  • rheolaeth gyllidol / rheoli dyledion
  • cydgysylltu Gofal yn y Gymuned
  • cyfranogiad tenantiaid
  • Cynllun Pryniant Tai Cost Isel
  • Gwasanaeth Wardeiniaid
  • dyletswyddau statudol gan gynnwys gofal am y digartref, budd-dal tai, grantiau adnewyddu tai, strategaethau, datblygiad polisïau, ardaloedd adnewyddu a chynlluniau trwsio grŵp
  • Canolfan J.E.O'Toole - darparu cyfleon hyfforddi i ieuenctid Môn trwy Ganolfan Hyfforddiant Môn a chyfleon datblygu i'r diwaith trwy Ganolfan J.E.O'Toole

Mae'r Gwasanaeth yn cydweithio'n glos â'r Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu tai ar gyfer pobl sydd gydag anghenion arbennig megis:

  • merched sy'n ceisio lloches oherwydd trais yn y cartref
  • pobl ag anawsterau dysgu
  • pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl
  • pobl sy'n dioddef oherwydd dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau eraill
  • pobl sydd ag anabledd corfforol ac sydd angen cefnogaeth
  • pobl ifanc sengl digartref sydd angen cefnogaeth a phobl ifanc sy'n ymadael â gofal
  • cyn-droseddwyr
  • pobl sengl di-gartref
  • strategaeth
  • Strategaeth Digartref Ynys Môn
  • Strategaeth Tai Lleol Ynys Môn

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am ddarparu amryw o wasanaethau o fewn y Sir:

  • Gofal Plant
  • Tîm Iechyd Meddwl - tîm aml-asiantaethol â'r Ymddiriedolaeth Iechyd Cymunedol
  • Tîm Anabledd Dysgu - i'r rhai ag anabledd meddyliol, tim aml-asiantaethol â'r Ymddiriediolaeth Iechyd Cymunedol
  • Tîm Byw'n Annibynnol - i'r rhai ag anabledd corfforol neu synhwyrol
  • Tîm Gwasanaethau'r Henoed - i bobl hŷn
  • Tîm Derbyn a Gofal y Cwsmer - i dderbyn ceisiadau am wasanaeth, rhoi gwybodaeth addas cychwynnol a gweithredu fel pwynt cyfeirio i'r rhai allai deimlo ar goll yn y system

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnal ac yn rheoli:

  • Gwasanaeth Gofal Cartref
  • cartrefi i bobl hŷn (6)
  • canolfannau dydd i bobl hŷn (4)
  • gwasanaethau dydd (anabledd dysgu)
  • gweithdy i bobl ag anabledd corfforol (1)
  • gwasanaeth ymateb allan o oriau
  • Tîm Troseddu Ieuenctid

Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt dilynwch y linciau isod.


Gweler Hefyd

  • Tai
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Croeso i ein hadain Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn yr adain yma ceir gwybodaeth ar agweddau iechyd, gofal cymdeithasol a lles ar Ynys Môn gan gynnwys manylion am anableddau, iechyd a gofal meddygol, gwasanaethau cymdeithasol a Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Ynys Môn.

  • Cysylltu - Gwasanaethau Cymdeithasol

    Gellir cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

  • Cysylltu - Gwasanaeth Tai

    Gellir cysylltu â Gwasanaethau Tai drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.

Diwygiad Diweddaraf: 12/05/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Linc i Directgov - y ffynhonnell fwyaf helaeth sydd ar gael o wybodaeth am y llywodraeth a'i gwasana

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057