Mae dyletswydd ar asiantiaid gosod a landlordiaid – i gynnal asesiadau risg ar gyfer clefyd y llengfilwyr, ac os bydd angen, i weithredu.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi rhyddhau Côd Ymarfer Cymeradwy - Clefyd y Llengfilwyr: Rheoli bacteria legionella mewn systemau dŵr.
Mae’n tanlinellu’r gofynion cyfreithiol i landlordiaid ac asiantau rheoli sicrhau bod y perygl o ddod i gysylltiad â legionella o’r holl systemau dŵr mewn eiddo rhent preswyl yn cael ei reoli.
Cyfrifoldeb pwy ydio? - h.y. asiant ynteu landlord? - gellir ateb hyn gyda chwestiwn syml: Os bydd tap yn torri neu’n gollwng, pwy sy’n gyfrifol am ei drwsio?
Mae’r cyfarwyddyd newydd yn mynnu bod landlordiaid ac asiantiaiad yn cadw cofnodiadau am o leiaf 5 mlynedd. Rhaid iddynt roi manylion ar bob agwedd o reoli asesiad risg.
Er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, mae angen i landlordiaid ac asiantiaid fod yn ymwybodol y gall bacteria legionella luosi mewn systemau dŵr poeth neu oer a thanciau storio, ac fe all gael ei ledaenu drwy gawodydd a thapiau. Rhaid i asesiadau risg nodi ac asesu ffynonellau tebygol o gyswllt, a chymryd camau i rwystro neu reoli unrhyw risg sy’n cael ei nodi.
Gall asesiadau risg fel arfer gael eu cynnal gan asiantiaiad neu landlordiaid, gan gynnwys asesu a yw’r amodau’n rhai iawn i facteria ffynnu - tymheredd rhwng 20oC a 45oC mewn dŵr. Mae llecynnau o ddŵr llonydd, pibellau na chânt eu defnyddio’n aml, sbwriel yn y system, a falfiau cymysgu thermostatig i gyd angen eu harchwilio.
Fodd bynnag, y rhan o’r asesiad risg sydd fwyaf tebygol o achosi’r problemau mwyaf yw penderfynu a yw unrhyw denantiaid penodol, fel pobl hŷn neu rhai sydd eisoes yn wael, yn fregus ac mewn perygl o gael haint.
Bydd raid i landlordiaid ac asiantiaid hefyd gydbwyso un set o gyngor – i godi tymheredd dŵr cynnes er mwyn rheoli legionella – yn erbyn y risg o losgiadau a sgaldian.
Rhai o’r camau a gymerir i reoli’r bygythiad o legionella yw rhoi diheintydd drwy’r system, sicrhau na all unrhyw ddŵr sefyll, inswleiddio pibellau a chadw systemau dŵr wedi eu gorchuddio ac yn rhydd o sbwriel.
Dylid dweud hefyd wrth denantiaid am y risgiau a dweud wrthynt am gymryd rhagofalon fel fflysio dŵr drwy gawodydd nad ydynt yn eu defnyddio’n aml.
Gall unrhyw un sydd â phryderon gysylltu â’u Hadran Iechyd Amgylcheddol.