Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyflwyno cwyn am fater bwyd


O bryd i'w gilydd fe allech chi brynu, bwyta neu yfed eitem o fwyd neu ddiod nad yw’n cyrraedd eich disgwyliadau. Bydd Cyngor Sir Ynys Mon yn ymchwilio i gwynion am fwyd mewn perthynas â bwyd a brynwyd o fewn y sir. 

Nodwch mai dim ond i gwynion sy'n peri risg i iechyd y byddwn yn ymchwilio. Os yw eich cwyn yn ymwneud â bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu os ydych chi wedi canfod pethau diarth yn y  cynnyrch sy’n gynhenid iddo, yna cysylltwch â'r siop, y gwneuthurwr neu’r cyflenwr lle prynwyd y nwyddau. 

Cyn i chi wneud cwyn

Mewn llawer o achosion, mae modd datrys eich cwyn trwy drafod y mater gyda'r siop, y busnes bwyd ac ati. Ar y cyfan, mae’n bryder i’r busnesau eich bod wedi dod o hyd i broblem a byddant yn gwneud eu gorau i ddatrys y mater. Rydym yn argymell mai dyma ddylech chi ei wneud fel cam cyntaf, yn enwedig os yw'r bwyd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu os ydych chi’n canfod pethau dieithr yn y bwyd sy’n gynhenid iddo.

Cwynion am safleoedd bwyd

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am fusnes bwyd penodol, e.e. os ydych chi wedi arsylwi arferion hylendid bwyd gwael, safonau gwael o lendid neu os ydych chi’n credu bod busnes yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd anghywir neu os nad oes ganddo sticer o gwbl, yna gallwch lenwi'r ffurflen uchod hefyd. 

Yn ogystal, dylid rhoi gwybod am unrhyw gwynion am fwyd sydd ddim yn cydymffurfio â gofynion labelu neu fwydydd sy’n cael eu cam-ddisgrifio neu sydd wedi llygru.

Sylwch ei bod yn bolisi gan Gyngor Sir Ynys Mon i beidio ag ymchwilio i gwynion dienw, ond byddwn yn cadw unrhyw fanylion personol y byddwch yn eu rhoi yn gyfrinachol