Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Balŵns a lanterni awyr


Os ydych chi’n bwriadu defnyddio balŵns neu lanterni awyr wrth ddathlu’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eleni, meddyliwch am eiliad ym mhle bydd y rhain yn glanio yn y diwedd. Mae’r Marine Conservation Society UK yn cynghori, pan gaiff balŵns a lanterni awyr (cânt eu galw weithiau’n lanterni Tsieineaidd)  eu rhyddhau, dydyn nhw ddim yn diflannu.

Maent yn disgyn yn araf yn ôl i lawr i’r ddaear ac yn aros yno, yr un fath ag unrhyw sbwriel arall. Ond mae balŵns a lanterni awyr yn sbwriel peryglus iawn. Caiff balŵns eu camgymryd am fwyd gan sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt, yn enwedig crwbanod y môr. Unwaith mae’r anifail yn bwyta balŵn, gall flocio’r system dreulio ac achosi i’r anifail lwgu. Mae’r llinyn ar falŵns hefyd yn medru clymu o amgylch anifeiliaid a’u trapio.

Gweler y linc ar wefan y Marine Conservation Society am ragor o wybodaeth ar eu hymgyrch Don’t Let Go Campaign.