Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Anableddau blynyddoedd cynnar - cefnogaeth


Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen arloesol sy’n galluogi ardaloedd awdurdodau lleol i ddatblygu systemau a chefnogaeth aml-asiantaethol  effeithiol, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi.

Mae sawl agwedd i dlodi, gyda thlodi cyfranogiad a chyfle yn aml yn effeithio ar deuluoedd lle mae plant gydag anabledd.

Bydd y gwasanaeth Cefnogi Cynnar yn darparu i deuluoedd y plant o enedigaeth hyd at bum mlwydd oed sydd ag anableddau difrifol a / neu gymhleth gyda chefnogaeth gyfannol i fynd i’r afael â phob agwedd o fywyd bob dydd.

Bydd Gweithiwr Allweddol yn cael ei ddyrannu i’r teulu. Bydd y Gweithiwr Allweddol yn helpu’r teulu i nodi eu cryfderau a’u gwendidau, blaenoriaethau a nodau yn y tymor byr a hirdymor.

Sefydlir Ffeil Deulu i gofnodi eu cynnydd a dathlu cerrig milltir o ddatblygiad y plentyn a siwrnai y teulu.

Bydd y Gweithiwr Allweddol yn cydlynu mewnbwn iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau addysg, gan sicrhau bod y plentyn a llais y teulu wrth wraidd unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a bod y gwasanaeth yn gweithio ar y cyd i lunio cynllun sengl ar gyfer y plentyn, Cynllun Datblygu Unigol.

Am ragor o wybodaeth gweler y manylion cyswllt ar yr ochr dde.

Mae’r gwasanaethau ar gyfer Plant Anabl ar Ynys Môn yn gweithio o dan yr egwyddorion canlynol:

  • Lle bynnag y bo’n bosibl, mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu byw ‘bywydau cyffredin’.
  • Mae natur unigryw y plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael ei werthfawrogi a darperir ar ei gyfer
  • Mae proses asesu, cynllunio ac adolygu amlasiantaethol unigol yn cael ei darparu a’i chyflwyno mewn partneriaeth gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
  • Mae darpariaeth gwasanaethau yn gyfannol, cydgysylltiedig a di-dor
  • Mae parhad gofal yn cael ei gynnal drwy gyfnodau gwahanol o fywyd plentyn a thrwy eu paratoi ar gyfer bod yn oedolyn
  • Mae dysgu a datblygiad plant a phobl ifanc yn cael eu monitro a’u hyrwyddo
  • Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus
  • Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ymwneud â ffurfio, datblygu a gwerthuso’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio
  • Mae arferion gwaith a systemau amlasiantaethol yn cael eu hintegreiddio
  • Gall plant, pobl ifanc a theuluoedd fod yn hyderus bod y bobl sy’n gweithio gyda nhw wedi cael hyfforddiant, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad priodol