Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Anableddau blynyddoedd cynnar - asesiadau


Esboniad o'r broses asesu.

Er mwyn cael mynediad i’r gefnogaeth y mae plentyn neu berson ifanc ei angen, mae’r bobl sy’n cynnig y cymorth hwn angen deall beth yw anghenion pob unigolyn.

Dim ond gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth iawn mae rhai gwasanaethau yn gweithio, a bydd ganddynt ‘feini prawf cymhwyster’ y mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gofyn am eu gwasanaeth eu bodloni.

Os na all gwasanaeth eich cefnogi chi, dylent awgrymu darparwyr amgen a fyddai’n gallu diwallu eich anghenion.

Bydd pob gwasanaeth megis Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Cymunedol neu Ffisiotherapyddion eu ffordd eu hunain o wneud pethau, y dylid eu hegluro’n llawn i chi pan fyddwch yn gwneud cais. Dylech bob amser ofyn os ydych angen mwy o wybodaeth.

Bydd rhai yn ymweld â chi yn eich cartref a bydd rhai eraill angen i chi ymweld â nhw. Bydd llawer o gwestiynau am anghenion y plentyn neu’r person ifanc ac weithiau am weddill y teulu hefyd. Gwneir hyn fel bod y person neu’r gwasanaeth sy’n darparu cymorth yn cael darlun llawn o sut rydych yn byw eich bywyd - asesiad cyfannol. Mae’n eu galluogi i weithio gyda chi i ganfod y syniadau a’r dulliau gorau ar gyfer gwella pethau.

Os yw’r anhawster sydd angen cymorth yn un corfforol, gall asesiad gynnwys arsylwi ar gyflawni tasgau bob dydd.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig o ymweliadau i gwblhau asesiad.

Os yw’r meini prawf cymhwyster yn cael eu bodloni...

Unwaith y bydd asesiad wedi’i gwblhau, bydd y darparwr gwasanaeth yn trafod opsiynau gyda chi i ddarparu cymorth parhaus neu sut i fynd i’r afael ag unrhyw anawsterau presennol.

Os bydd plentyn neu berson ifanc angen cymorth gan fwy nag un gwasanaeth, efallai y byddant yn gofyn am eich caniatâd i drafod eich anghenion gyda’i gilydd. Gallwch hefyd ofyn am i’r gwasanaethau sy’n eich cefnogi chi / eich plentyn gwrdd i drafod materion a gweithio gyda chi i ddod i ffurfio un cynllun cymorth cydgysylltiedig.

Gelwir hyn yn weithio Aml-Asiantaeth. Mae’n arbed amser ac yn sicrhau bod yr holl anghenion cymorth yn cael sylw, nad yw gwasanaethau yn cael eu dyblygu darpariaeth ac nac ydynt yn tynnu i gyfeiriadau gwahanol.

Os nad yw’r meini prawf cymhwyster yn cael eu bodloni...

Dylai’r gwasanaeth asesu roi ffynonellau eraill o gefnogaeth i chi.

Os ydych yn anhapus gyda neu’n aneglur ynghylch canlyniad asesiad, dylech drafod hyn yn gyntaf gyda’r person sydd wedi gwneud yr asesiad.

Os byddwch yn dal yn anfodlon, gallwch ofyn am gael siarad â’u rheolwr llinell.