Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hedgerow regulations


Rheolau a Reoliadau Wrychoedd 1997 - Ateb Eich Cwestiynau

Cyhoeddwyd gan: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Cyfieithiad Cyngor Sir Ynys Môn.

Daeth rheolau newydd ar wrychoedd i rym ar 1 Mehefin 1997.

O dan Reoliadau Gwrychoedd 1997 (OS Rhif 1160):

  • mae’n anghyfreithlon dileu’r mwyafrif o wrychoedd cefn gwlad heb ganiatâd
  • i gael caniatâd i ddileu gwrych, rhaid ysgrifennu at eich awdurdod cynllunio lleol
  • os yw’r awdurdod yn penderfynu gwahardd dileu gwrych pwysig, rhaid iddynt roi gwybod i chi cyn pen 6 wythnos.
  • os byddwch yn dileu gwrych (boed yn bwysig neu beidio) heb ganiatâd, gallech wynebu dirwy ddiderfryn. Gall fod rhaid i chi blannu gwrych arall yn ei le hefyd.

Gwybodaeth gyfyngedig yn unig sydd yn y daflen hon. Mae’n grynodeb byr yn unig, heb unrhyw rym cyfreithiol.

Mae’r ffordd y cymhwysir y Rheoliadau at wrychoedd unigol yn gymhleth. Mae’n ddoeth felly i chi drafod unrhyw gynlluniau i ddileu gwrychoedd gyda’r awdurdod cynllunio lleol yn anffurfiol yn gynnar yn y broses - a chyn i chi ofyn yn ffurfio am ganiatâd. Os gwneir cais, byddant yn rhoi esboniad ysgrifenedig o’r hyn y mae’n rhaid ei wneud a pham

OES, os yw’ch gwrych ar y canlynol, neu’n rhedeg yn eu hymyl:

  • tir amaethyddol;
  • tir comin, gan gynnwys lawnt tref neu bentref;
  • tir a ddefnyddir ar gyfer coedwigaeth neu i fridio neu gadw ceffylau, merlod neu asynnod; neu
  • Warchodfa Natur Leol neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

NAC OES, os yw:

  • yn llai nag 20 metr o hyd (oni bai bod y ddau ben yn cysylltu â gwrychoedd eraill neu os yw’n rhan o wrych hirach); neu
  • yn rhan o’ch gardd, neu’n ffinio â hi.

 

Cyfrifir bylchau o 20 metr o hyd neu lai yn rhan o’r gwrych. Gall bwlch fod yn doriad yn y llystyfiant, neu gall fod wedi’i lenwi, er enghraifft â llidiart

NID oes rhaid i chi gael caniatâd i ddileu’ch gwrych ychwaith:

  • er mwyn cael mynediad -
  • naill ai yn lle agoriad sy’n bodoli eisoes, ar yr amod eich bod yn plannu darn newydd o wrych i lenwi’r fynedfa wreiddiol, neu lle nad oes mynedfa arall ar gael; ac eithrio am gost anghymesur;
  • i gaelmynedfa dros dro i helpu mewn argyfwng;
  • w i gydymffurfio a gorchymyn statudol iechyd planhigion neu iechyd coedwig;
  • i gydymffurfio â hysbysiad statudol, i atal ymyrryd â gwifrau ac offer trydan;
  • w mewn cysylltiad â gwaith traenio statudol neu waith statudol i amddiffyn rhag llifogydd; neu
  • i weithredu caniatâd cynllunio(ond yn achos hawliau datblyg a ganiateir, FE FYDD angen caniatâd ymlaen llaw i ddileu’r mwyafrif o wrychoeddedd).
  • ceir eithriadau pellach ar gyfer diogelwch gwladol ac ar gyfer dileu gwrychoedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweithredu fel yr Asiantaeth Priffyrdd yng Nghymru.

Nid oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer rheolaeth arferol eich gwrych.

NAGE. Mae dileu gwrych yn cynnwys gweithrediadau eraill sy’n golygu bod y gwrych yn cael ei ddinistrio hefyd, ond trinnir coedlannu, plygu a dileu prysgwydd a choed marw neu afiach fel rheolaeth arferol.

Y tirfeddiannydd, y tenant amaethyddol, y tenant busnes fferm neu gyfleustodau penodol megis cwmnïau nwy, yn unig.

Rhaid i chi anfon hysbysiad dileu gwrych i’r awdurdod cynllunio lleol, sef, y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. Ni chodir tâl am hyn. Os ydych yn byw mewn Parc Cenedlaethol, Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw’r awdurdod cynllunio lleol. Gallwch gael ffurflen oddi wrth yr awdurdod.

Maent yn ymweld â’r safle i benderfynu a yw’r gwrych yn “bwysig” ac fe allent fynd i’ch tir. Er mwyn iddo fod yn “bwysig”, rhaid i’r gwrych (i) fod o leiaf 30 oed, a (ii) bodloni o leiaf un o’r 8 maen prawf penodedig, sydd wedi’u crynhoi ar y tudalen cefn. Mae’r meini prawf hyn yn nodi gwrychoedd sydd o werth pendodol o safbwynt archeolegol, hanes, bywyd gwyllt neu’r tirlun.

Rhaid i’r awdurdod ymgynghori â’r cyngor cymuned hefyd.

Ni all yr awdurdod wrthod caniatâd i chi ddileu’r gwrych. Dylent ysgrifennu i ddweud y gellir dileu’r gwrch. Nid yw’r caniatâd yn diddymu unrhyw ofynion i hysbysu neu i sicrhau caniatâd o dan ddeddfwriaeth arall, nac unrhyw oblygiadau contractiol.

Bydd yr awdurdod yn penderfynu a yw’r amgylchiadau’n cyfiawnhau dileu gwrych pwysig. Mae yna rhagdybiaeth gref o blaid diogelu gwrychoedd pwysig. Os nad ydynt yn fodlon y gellir cyfiawnhau dileu’r gwrych, rhaid i’r awdurdod wrthod caniatâd. Byddant yn ysgrifennu i ddweud y gwaherddir dileu’r gwrych. Yr enw ar hyn yw hysbysiad cadw gwrych.

Cewch ddileu’r gwrych os nad ydych yn clywed oddi wrthynt ymhen 6 wythnos ar ôl i’r awdurdod gael eich hysbysiad dileu gwrych - oni bai eich bod wedi cytuno i estyniad.

2 flynedd naill ai o dyddiad caniatâd ysgrifenedig yr awdurdod, neu o ddiwedd y cyfnod o 6 wythnos. Ar gyfer y gwaith a nodwyd yn eich cais y rhoddir y caniatâd a dim rhagor. Rhaid i chi gael caniatâd newydd ar gyfer unrhyw waith arall.

Cewch, gallwch apelio yn ysgrifenedig at yr Ysgrifennydd Gwladol cyn pen 28 diwrnod o gael penderfyniad yr awdurdod. Bydd yr hysbysiad cadw gwrych yn esbonio sut.

Mae hysbysiad cadw gwrych yn barhaol. Ond, os bydd yr amgylchiadau’n newid, cewch gyflwyno hysbysiad dileu newydd.

Oni bai bod un o’r eithriadau yn C1 yn gymwys, mae’n dramgwydd troseddol dileu gwrych yn fwriadol heb ganiatâd. Os dyfernir eich bod yn euog gan lys ynadon gallech wynebu dirwy o hyd at £5,000. Os daw’r achos gerbron llys y goron, nid oes terfyn ar y ddirwy.

Gallai’r awdurdod ddweud bod rhaid i chi blannu gwrych arall. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae’r gwrych newydd yn “bwysig” yn awtomatig am 30 mlynedd ar ôl ei blannu.

Mae’n bosibl y bydd grantiau’n daladwy o dan rai o gynlluniau’r Llywodraeth. Hwyrach hefyd y gall rhai awdurdodau lleol ddarparu cyllid ac y bydd y Gwarchodwyr Cefn Gwlad yn gallu helpu gydag adfer gwrychoedd. Yng Nghymru, gellir cael cyngor am ddim ar gadwraeth trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cefn Gwlad ac Amaethyddiaeth (CAIS) drwy ffonio 0345 125 744. Gallant roi cyngor ar grantiau a rheoli gwrchoedd hefyd.

Gwrychoedd Pwysig:

Y meini prawf

  • Mae’r Rheoliadau’n manylu ar sut i fodloni’r meini prawf. Arweiniad syml yn unig yw hwn.
  • Mae’n nodi ffin plwyf neu dref gynharach na 1850.
  • Mae’n cynnwys nodwedd archeolegol.
  • Mae’n rhan o safle archeolegol neu’n perthyn iddo.
  • Mae’n nodi ffin ystad neu faenor gynharach na 1600 neu’n perthyn iddynt.
  • Mae’n rhan annatod o system amgáu tiroedd comin cyn-Seneddol.
  • Mae’n cynnwys categorïau penodol o rywogaethau o adar, anifeiliaid neu blanhigion a restrwyd yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad neu yng Nghyhoeddiadau’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).

Mae’n cynnwys :

  • o leiaf 7 rhywogaeth goediog ar gyfartaledd, mewn darn 30 metr o hyd;
  • o leiaf 6 rhywogaeth goediog, ar gyfartaledd, mewn darn 30 metr o hyd ac o leiaf 3 nodwedd gysylltiedig;
  • o leiaf 6 rhywogaeth goediog, ar gyfartaledd, mewn darn 30 metr o hyd, gan gynnwys poplysen ddu, pisgwydden ddeilfawr, pisgwydden ddeilfach, neu gerddinen wyllt; neu
  •  o leiaf 5 rhywogaeth goediog, ar gyfartaledd, mewn darn 30 metr o hyd ac o leiaf 4 nodwedd gysylltiedig.

Mae nifer y rhywogaethau coediog a ganiateir un yn llai yn siroedd gogledd Lloegr. Mae’r rhestr o 56 o rywogaethau coediog yn cynnwys llwynia choed yn bennaf. Yn gyffredinol, nid yw hyn yn cynnwys planhigion dringo (megis, dringhedydd, gwyddfid a miaren) ond mae’n cynnwys rhosynnod gwyllt.

Mae’n rhedeg ar hyd llwybr caffylau, llwybr troed, ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus, neu gilffordd sy’n agored i bob traffig ac yn cynnwys o leiaf 4 rhywogaeth goediog, ar gyfartaledd, mewn darn 30 metr o hyd ac o leiaf 2 o’r nodweddion cysylltiedig a restrir yn 7(i) i (v) isod.

Y nodweddion cysylltiedig yw:

  • clawdd neu fur yn cynnal y gwrych;
  • llai na 10% o fylchau;
  • ar gyfartaledd, o leiaf un goeden pob 50 metr.
  • o leiaf 3 rhywogaeth o restr o 57 o blanhigion coetir;
  • ffos;
  • nifer o gysylltiadau â gwrychoedd eraill, pyllau dwr neu goetir;
  • gwrych paralel o fewn 15 metr.