Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwydded hypnotiaeth llwyfan


Os ydych am ddangos, arddangos neu berfformio gweithred hypnotaidd yn gyhoeddus, rhaid i chi gael awdurdodiad gan yr Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr.

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad

Meini prawf cymhwyster

Bydd tal yn daliadwy i’r awdurdod lleol.

Gair am y rheoleiddio 

Cryndodeb o’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r drwydded hon

Y broses o werthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Gwneud cais

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:

Adain Drwyddedu, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW

Ffon: 0044(0)1248 750057

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).