I fod yn ddeliwr metel sgrap, rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol.
Meini prawf cymhwyster
Dylid dosbarthu deliwr metel sgrap fel un sy’n rhedeg busnes yn ardal yr Awdurdod Lleol os yw un o’r canlynol ar waith:
- mae gan y deliwr safle fel storfa metel sgrap yn yr ardal
- nid yw’r deliwr yn dal safle fel storfa metel sgrap ond fod ganddo gartref swyddogol yn yr ardal
- nid yw’r deliwr yn dal safle fel storfa metel sgrap ond fod ganddo safle ar gyfer busnes yn yr ardal.
Mae’n rhaid i geiswyr ddarparu’r canlynol:
- eu henwau llawn
- cyfeiriad y deliwr, neu yn achos cwmni, eu swyddfa gofrestredig neu eu prif swyddfa
- cyfeiriad pob safle a feddiennir fel storfa metel sgrap, os oes yna rai
- os rhedir y busnes heb storfa metel sgrap
- os rhedir y busnes heb storfa metel sgrap ond fod y ceisydd yn dal safle i bwrpas y busnes, ynghyd â chyfeiriad y fath le.
Rhaid i’r deliwr cofrestredig hysbysu’r Awdurdod Lleol o unrhyw newidiadau i’r manylion hyn neu os peidiant mwyach â bod yn ddelwyr metel sgrap
Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:
Safonnau Masnach
Ymholiadau cyffredinol: 01248 750057
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).