Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Siop anifeiliaid anwes


Er mwyn rhedeg busnes gwerthu anifeiliaid anwes mae arnoch angen trwydded gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys pob gwerthu masnachol o anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy’n gwerthu anifeiliaid dros y we.

Ni chaiff ymgeiswyr am drwydded siop anifeiliaid anwes fod wedi eu gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes.

Bydd angen talu ffi, a benderfynir gan yr awdurdod lleol, wrth wneud y cais.

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:

  • dylai’r anifeiliaid gael eu cadw mewn lle addas, o ran tymheredd, maint, golau, aer a glanweithdra er enghraifft
  • dylid darparu digon o fwyd a diod i’r anifeiliaid a bydd rhywun yn mynd i’w gweld yn ddigon aml
  • ni ddylid gwerthu mamaliaid yn rhy ifanc
  • dylid gweithredu er mwyn atal haint rhag lledu ymhlith yr anifeiliaid
  • dylid gwneud digon i warchod yr anifeiliaid rhag tân ac argyfyngau eraill.

Gellir rhoi amodau ar drwydded er mwyn sicrhau y cedwir at y pwyntiau uchod.

Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01249 750057

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os gwrthodir cais gall yr ymgeisydd apelio at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny'n llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).