Territorial co-operation
Wales will take part in four Territorial Co-operation Programmes during the period 2007-2013.
Y pedair yw:
- Rhaglen Drawsffiniol Cymru/Iwerddon
- Rhaglen Drawsgenedlaethol Ardal yr Iwerydd
- Rhaglen Drawsgenedlaethol Gogledd-orllewin Ewrop
- Rhaglen Ryng-ranbarthol (IVC)
Ar y cyd, bydd y pedair rhaglen yn buddsoddi tua €900 miliwn mewn prosiectau ledled yr UE i gryfhau’r cysylltiadau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol rhwng y gwledydd sy’n aelodau, ac annog cymdogion trawsffiniol i gydweithio i ddatblygu prosiectau arloesol.
‘CELTIC WAVE’
Mae’r prosiect ‘Celtic Wave’ yn raglen bartneriaethol arloesol a gyllidwyd drwy’r ERDF sydd yn rhan o raglen Interreg 4A. Nod y prosiect yw hyrwyddo tyfiant a datblygiad y diwydiant llongau mordeithiau ar Fôr Iwerddon.
WINSENT
Caiff prosiect WINSENT ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A). Bydd ariannu’n rhedeg o Fehefin 2009 i Fai 2012.
Mae gan WINSENT gymysgedd o sefydliadau partner, mentrau cymdeithasol ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i gyd i:
- Godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diwylliant o entrepreneuriaeth gymdeithasol
- Creu mentrau cymdeithasol newydd â dawn entrepreneuraidd
- Cefnogi mentrau cymdeithasol presennol a’r entrepreneuriaid cymdeithasol
- Nodi cyfleoedd o fewn yr economi gymdeithasol
- Cynorthwyo grwpiau cymunedol i gyflawni gwasanaethau allweddol yn lleol mewn ffordd entrepreneuraidd
- Datblygu WISEA (Wales Ireland Network for Social Entrepreneurship Alliance) a fydd yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth ymysg entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol




